Teithio Hwnt ac Yma

Teithio Hwnt ac Yma Karen Ingham, Piece of Mind Mask, 2010

Alicia talks about Karen Ingham's show at Ffotogallery and the new Elysium Gallery Artist Studios in Swansea


English


Ymddiheuriadau am beidio â rhoi nodiadau’r mis hwn ar-lein yn gynt - rydym yn dechrau eu cyfieithu i’r Gymraeg i geisio ehangu eu cyrhaeddiad ac i gydnabod pwysigrwydd dwyieithrwydd yng Nghymru.

Roeddwn yng Nghaerdydd ddiwedd Mawrth ar gyfer sioe Wonder Chamber Karen Ingham yn Ffotogallery. Es i i’r noson agoriadol, ac roedd yn wych oherwydd cefais gyfle i siarad â llwythi o bobl. Fe wnes i gwrdd â Karen - roeddwn wedi clywed amdani ond erioed wedi’i chyfarfod; a David Drake - roeddwn wedi ei gyfarfod ef ond heb ei weld ers iddo ddechrau ar ei swydd fel cyfarwyddwr Ffotogallery; a’r artist Holly Davey, sydd bob amser yn bleser ei chyfarfod; yn ogystal â Gill Nicol, a weithiodd yn Ikon ac Arnolfini ac sy’n un o’r bobl hynny sydd i’w gweld ym mhobman ac sy’n meddu ar fwy o egni a chymhelliant nag y bydd gen i gydol fy oes.

Mae arddangosfa Karen Ingham i ryw raddau yn edrych yn ôl ar yr ystod o waith y mae wedi’i gyflawni dros y deng mlynedd diwethaf - gweithiau sydd â chydberthynas rhyngddynt. Maent yn ymchwilio i’w diddordebau mewn gwyddoniaeth a’r byd ysbrydol drwy wahanol fformatau ac o wahanol safbwyntiau. Bu ganddi ddiddordeb ers cryn amser yng nghyd-destun yr amgueddfa sy’n gwahaniaethu rhwng gwrthrychau ac yn eu categoreiddio mewn ffyrdd penodol, gan fapio naratif diwylliannol am yr hyn sy’n ei gwneud ni ac o ble rydym yn dod. Mae wedi treulio llawer o amser yn meddwl am gasgliadau amgueddfeydd gwyddoniaeth naturiol ac mae’n eu defnyddio yn ei gwaith—Amgueddfa Sŵoleg Grant, Amgueddfa Hunterian Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ac eraill. Ond mae cymysgu ei sylwadaeth a dylanwad nain a thaid a oedd yn gyfryngwyr-ysbrydegwyr yn rhoi gogwydd tra gwahanol ar ei gwaith, ac mae’n ein hannog i fyfyrio ar faint o ffydd sydd ei angen ar wyddoniaeth. Mae ei darluniau’n dyst i’r ymrafael rhwng y ddwy brif nodwedd sy’n llywdoraethu ein bodolaeth - gwyddoniaeth a chrefydd.

IMG 5098
Stiwdios newydd Elysium yn Abertawe

Ar fy rhestr o bethau i’w gwneud mae ymweliad â Stiwdios Artistiaid Oriel Elysium yn Abertawe. Maent newydd agor 13 o stiwdios newydd i ychwanegu at y 10 sydd uwchben yr Oriel; ac mae cynlluniau ar y gweill i lansio 22 o stiwdios eraill mewn 2 leoliad arall yn ystod y flwyddyn. Bydd hyn yn ei gwneud yn un o’r prif ddarparwyr gofod gwaith i artistiaid ac yn gefnogwr hollbwysig i’r ymarfer yn y ddinas.

Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn stiwdios artistiaid a’u rôl mewn adfywio dinasoedd. Ym mhobman y bûm yn gweithio yn y DU, mae dod o hyd i ofod stiwdio yn broblem i artistiaid ac mae’r galw yn llawer mwy na’r cyflenwad.

DSCF1202Stiwdios newydd Elysium yn Abertawe

Mae gan artistiaid ddawn i ganfod rhannau fforddiadwy o ddinasoedd, ond yn aml maent yn cael eu dal yn eu magl eu hunan wrth i’r ardal gael ei boneddigeiddio yn sgil eu presenoldeb ac yna cânt eu gorfodi i symud unwaith eto oherwydd bod y rhenti’n codi. Er mai boneddigeiddio yn aml iawn yw un o nodau cudd cynllunwyr dinasoedd sy’n hyrwyddo’r defnydd o adeiladau gwag gan artistiaid, mae’n annog cylch na ellir mo’i gynnal a fydd, yn y pen draw yn niweidio dinasoedd (a fydd yn colli eu craidd diwylliannol) ac ymarfer artistiaid (y mae angen gofod arno er mwyn datblygu). Mae angen diogelu’r cyfoeth a ddaw yn sgil cymuned greadigol a diwylliannol i ddinasoedd—mae angen prydlesi hir ar stiwdios artistiaid, neu’n well byth, perchnogaeth, rhyddhad ardrethi busnes a rhenti is. Hwrê am y camau breision y mae Elysium yn eu cymryd yn Abertawe.


Alicia Miller, Swyddog Cyswllt Axisweb, yn myfyrio ar y lleoedd, y bobl a'r datblygiadau cyffrous yng Nghymru

Mae Alicia yn byw yng Ngheredigion ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ddoethuriaeth am hanes Stiwdios SPACE yn Llundain. Ymysg y lleoedd eraill y bu'n gweithio ynddynt mae San Francisco Camerawork ac Oriel Whitechapel ac mae wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer Art Monthly, Art Review, Flash Art a chyhoeddiadau eraill.