Open Frequency 2013: Laura Reeves dewiswyd gan Adam Carr

Open Frequency 2013: Laura Reeves dewiswyd gan Adam Carr Laura Reeves, Seaside Postcards, 2012, digital print postcard, 10 x 15 cm (x 4)

Adam Carr, Curadur Celfyddydau Gweledol yn Oriel Mostyn, yn rhoi proffil o’r artist sy’n dod i’r amlwg Laura Reeves

English


Presennol Gorffennol

Efallai mai’r nodwedd amlycaf o waith Laura Reeves yw ei ddefnydd o ddeunydd a ganfuwyd, yn arbennig ei gallu i harneisio syniadau presennol a chreu rhai newydd.
Yn wir, llinyn cyson sy’n rhedeg trwy ei gwaith yw cofnodi’r gorffennol. Gall y deunyddiau mae’n eu canfod – lluniau, sleidiau a chardiau post yn eu mysg – ddod gan ei theulu, neu o’r nifer o siopau elusen mae’n eu pori, neu mewn llefydd ble mae wedi ei gwahodd i arddangos. Gellir cymharu ei hymagwedd i’w gwaith i waith ditectif, gan ei bod yn astudio’r deunydd mae’n canfod yn fanwl, gan ganfod ei darddiad, ystyr a phwrpas, ac yn caniatáu iddo ei harwain at ganfyddiadau eraill.

Dechreuodd prosiect dwy flynedd o’r enw ‘Richard a Beryl’ (2010-2012), er enghraifft, pan ddaeth Reeves ar draws 400 o sleidiau yn perthyn i gwpl anhysbys, a arweiniodd iddi deithio i’r rhan fwyaf o’r llefydd a welir yn y lluniau. Mae’r prosiect yn cynnwys sawl darn: llyfr sy’n disgrifio’r delweddau, cyflwyniad sleid 35mm a nifer o ail greadau o gardiau post glan môr yn dangos Reeves yn y mannau yr ymwelodd â nhw, a gafodd eu cipio yn y ddelwedd wreiddiol a ganfu.

Gwaith arall mwy diweddar sy’n defnyddio archifo ac atgof o’r gorffennol yw ‘Beic Dad’. Mae’n cynnwys casgliad o 36 o luniau analog a dynnwyd gan dad Reeves o amgylch ardal y Peak District a thirluniau eraill ledled Prydain. Mae pob llun yn dangos ei feic yn y mannau yr ymwelodd â nhw; pob un yn wahanol ond yn gyson o ran ei fod ef ei hun ar goll.

The Students Of Mr D.Brook 2012, Installation shot Motorcade/FlashParade, Photograph credit: Thomas Heming

Laura Reeves, The Students Of Mr D. Brook 2012
Installation view, Motorcade/FlashParade
Credit: Thomas Heming

The Greenhouse, 2013, 14.8 x 21 cm photocopied pamphlet

Laura Reeves, The Greenhouse, 2013
photocopied pamphlet, 14.8 x 21 cm

Gyda'i gilydd, maent yn ymdebygu i ryw fath o waith a 'ganfuwyd' neu ddamweiniol o syniadolaeth gynnar, yn arbennig proses a gwaith a arweinir gan reolau Douglas Huebler, John Baldessari neu Ed Ruscha, nad oedd tad Reeves yn ymwybodol ohonynt. O bosibl, fodd bynnag, maent wedi eu halinio’n agosach gyda Marcel Duchamp a’i gysyniad o ‘Weithiau celf nad ydynt yn weithiau celf'. Mae dogfennu celf fel celf – ei fynegeio a’i bosibiliad o fod yn eiddo i rywun arall ac yn rhywbeth arall – hefyd yn rhywbeth y mae Reeves yn ymddiddori ynddo. Datblygodd ‘Myfyrwyr Mr D. Brook’ wedi i Reeves ganfod nifer o sleidiau yn perthyn i’r gorffennol yn ei chwpwrdd clo yn yr ysgol gelf, rhai ohonynt yn dangos myfyrwyr celf blaenorol wrth eu gwaith. Aeth Reeves ymlaen i ‘gwblhau’ y gweithiau hyn yn y delweddau trwy wneud darnau yn seiliedig arnynt.

Er bod lle i waith Reeves yng ngwaith syniadolaeth gynnar, yn ogystal ag yn y syniad o adfeddiad a’r parod, ac yn wir gellid ei alinio gyda gwaith artistiaid sy’n cael eu cysylltu’n agos â’r syniadau hynny, yn hytrach na chyfeiriad at hanes celf, mae’n cyfeirio fwy at hanes yn gyffredinol: sut gall y gorffennol fod y presennol, a sut y gellir ail-fyw’r gorffennol eto heddiw.

Adam Carr, Medi 2013