'Hud y Lleol'

'Hud y Lleol' Helen Booth, Strings, 2014

Mae ein Cydymaith yng Nghymru, Alicia Miller, yn adrodd o fannau yng Ngorllewin Cymru ble mae hi wrth ei bodd i ganfod prosiectau diddorol gan arlunwyr lleol

English


Am hydoedd, roedd yn ymddangos fod yn rhaid i sefydliadau celf ddewis naill ai i ganolbwyntio ar y lleol neu ar y rhyngwladol – ystyriwyd fod gwneud y ddau beth braidd yn broblemus. Yn fynych iawn, roedd yn teimlo’n gynyddol fel pe baent yn symud eu ffocws i ffwrdd o’r lleol a thuag at y rhyngwladol. Mae’n ymddangos fod agweddau tuag at werth proffiliau lleol a rhyngwladol wedi newid cryn dipyn yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac mae’r ymdeimlad o begynedd rhyngddynt wedi cael ei ddymchwel yn llwyr.

Bellach, ystyrir fod cefnogi arlunwyr lleol a’u gweithgareddau yn allweddol o ran creu amgylchfyd creadigol bywiog sy’n gwneud cymunedau’n fannau gwell i fyw ynddynt. Gwelir fod gwerth mewn creu cyfleoedd i arlunwyr sy’n byw yn eu cynefin, cyfleoedd sy’n gwneud aros yn lleol yn ddewis gyrfa ymarferol.

Yng Nghymru, mae’r lleol yn enwedig o bwysig, mi gredaf, oherwydd y cyd-destun sy’n wledig gan mwyaf. Pan ei bod yn anodd cyrraedd unman arall, mae’n well i wneud ble’r ydych chi’n fwy diddorol a meithrin ei ansawdd lle.  Yn y fan ble rwyf i’n gweithio yng Ngorllewin Cymru, gwneir argraff fawr arnaf drwy’r amser gan y rhaglennu yn Theatr Mwldan a Theatr Byd Bychan yn Aberteifi. Mae’r ddau’n llwyddo’n wych i ddarparu rhaglenni sy’n cydbwyso’r lleol gyda’r rhyngwladol gydag esmwythdra nad yw’n hunanymwybodol -  cysondeb ansawdd yw’r allwedd yma.

Yn ddiweddar, gwelais sioe hyfryd gan Helen Booth yn Oriel Mwldan. Mae Helen yn arlunydd sydd wedi’i seilio’i hun yng Ngheredigion. Mae cyfrwng ei gwaith yn amrywio - lluniadau, paentiadau, print, cerfluniau a gosodiadau - ond mae’n gyson yn ei ddiddordebau: cysylltiad â deunyddiau a amlygwyd gan farciau ystumiol a dull o wau cymhlethiadau fel pe bai’n rhoi beth bynnag y mae’n gweithio ag ef brawf. Mae’n sôn am bapur yn arbennig, ei ‘gam-drin’ trwy gyffwrdd ag ef a’i rwygo, ei wasgu a’i grychu. Mae rhywbeth yn gysefin yn hyn oll, rhyw angen i ddeall ansoddau hanfodol sylwedd a’i gydberthynas â golau.

Mae’r rhaglen gelf weledol yn Theatr Mwldan wedi cymryd cam mawr ymlaen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n cydweithredu gydag Oriel Davies yn y Drenewydd, a fu’n darparu cyngor curadurol ynghylch sut mae’n rhaglennu celf weledol. Mae hefyd wedi penodi cydlynydd oriel, Isobel Smathers, i oruchwylio ei harddangosfeydd. Yn ogystal, caiff Isobel ei hyfforddi a’i mentora gan Amanda Farr ac Alex Boyd-Jones yn Oriel Davies. Mae’n enghraifft flaengar o sut gall sefydliadau gefnogi ei  datblygiad proffesiynol ei gilydd, meithrin doniau lleol a chodi safon rhagoriaeth ar draws Cymru.

Mae Alice Briggs, arlunydd a’r curadur yn Amgueddfa Ceredigion , hefyd yn gweithio er mwyn ailfywiogi’r lleol wrth sicrhau fod hanes bob amser yn aros yn gyfoes. Mae Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth wedi meddiannu blaen siop gyfagos. Mae’r gofod hwn Oddi Ar y Safle yn bwriadu hyrwyddo casgliadau, celfyddyd a chymunedau gan ddefnyddio amlygrwydd ffenestr y siop i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd sy’n digwydd mynd heibio mewn dulliau arlunwyr o feddwl.

Louise Short sydd â’r cyntaf o’r arddangosfeydd. Yn Mycophilia,  mae’n archwilio’r cyfoeth o ffyngau yng Ngheredigion, sy’n un o’r rhai mwyaf amrywiol a helaeth yn y DU, trwy fynd am dro drwy gefn gwlad Cymru. Mae ei dull o ymarfer wedi archwilio’r byd naturiol ers amser maith ac mae’r arddangosfa hon yn adlewyrchu cysylltiad agos seicolegol a dirfodol ag ef.  Mae ei mowldiadau o ffyngau sy’n ffrwydro dros wal las dywyll, yng nghefn y gofod, yn olion yr organeb ei hun, gyda llawer ohonynt â meinwe’r ffyngau’n parhau i fod wedi’i ddal yn gain ynddo.  O bellter, mae’n edrych fel clwstwr sêr rhyfedd  yn awyr y nos,  cyfeiriad sy’n cysylltu agweddau micro a macro ein byd mewn continwwm cyson.

Mae madarch yn un o’r organebau hynny sydd â lle yn rhannau tywyllach ein dychymyg ble mae pethau sy’n hanfodol ac yn sylfaenol yn byw. Bydd yr arddangosfa ei hun yn tyfu ac amlhau drwy gydol ei hymddangosiad  - bydd madarch gwahanol yn poblogi gofodau ymylol yr oriel a bydd cyfres o brintiau sbôr yn tyfu o fadarch a osodwyd mewn cabinet o wydrau. Mae gan Short ddiddordeb yn y gwthio a’r tynnu rhwng cartrefgarwch a natur. Mae’r sborau’n  gwasgnodi eu hunain ar bapur, gan adael cofnodion cynnil a manwl o’u presenoldeb - atgof o rym natur i ailfeddiannu lluniadau ein byd dynol.

Bydd  arddangosfa Alice Forward  Swarm Society yn dilyn Mycophilia, gan agor ar Fehefin 12.  Mae’r ddwy’n gydweithredwyr a byddant yn gweithio’n aml gyda’i gilydd. Mae Swarm Society hefyd yn ystyried ein cydberthynas â’r byd naturiol, gan ein gwahodd i bendroni ynghylch p’un ai  oes ‘angen i ni edrych gam ymhellach am y byd gwyllt nac ynom ni ein hunain'?

Yng ngwylltiroedd Gorllewin Cymru, mae’n gwestiwn priodol.

 

Alicia Miller, Mai 2014


Darllen pellach

Arolwg Carolyn Black o Mycophilia 

 


Cynnwys cysylltiedig ar Axisweb

Nodiadau o Gymru Blaenorol >

Rant 85: Homegrown talent: who cares? >