Rêl Institwt - Porth Gwe Analog

you are here: art talk > axis live > rêl institwt - porth gwe analog

Sign up for Axis news

Sign up to receive e-bulletins from Axis.

Rêl Institwt - Porth Gwe Analog

Ydych chi’n cael trafferth gyda’ch cysylltiad rhyngrwyd?

Ydych chi erioed wedi meddwl pa mor hir fyddai’n ei gymryd i greu’r tudalennau gwe rydym yn eu gweld â llaw, mewn amser real? Sut fydden nhw’n edrych?

Ymunwch â ni ddydd Gwener 22ain a dydd Sadwrn 23ain o Fehefin i ddod o hyd i’r ateb.

English

Bydd y sefydliad celf Rêl Institwt o Ogledd Cymru yn lansio ei wasanaeth ar y we, sy’n torri tir newydd, gyda pherfformiad rhyngweithiol arbennig. 

Gan ddefnyddio tîm o arbenigwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig (artistiaid), dau bensil, bwth mawr a rhywfaint o saethau miniog, byddwch yn gallu ymweld â'r RHYNGRWYD, sy’n enwog erbyn hyn, mewn Amser Real, drwy ein Porth Gwe Analog sydd wedi cael ei ddatblygu’n arbennig.
Byddwch yn gallu cerdded i ffwrdd gyda darn eich hun o RYNGRWYD analog.
Rhyw ddydd, bydd pob cysylltiad rhyngrwyd yn cael eu gwneud fel hyn.

Amseroedd y perfformiadau:
11 – 4 Dydd Gwener 22ain Mehefin
11 – 1 Dydd Sadwrn 23ain Mehefin

Bydd yr artistiaid a thîm Oriel Davies yn cynnal sgwrs agored ar ôl perfformiad dydd Sadwrn, 23ain am 1.00-2.00yh - mae croeso i bawb.

Oriel Davies
Y Parc
Y Drenewydd
Powys
SY16 2NZ

Analogue web portal

+44 (0)1686 625041
desk@orieldavies.org
www.orieldavies.org

Cefnogir y digwyddiad hwn gan Axis a Oriel Davies a Cyngor Celfyddydau Cymru.

Oriel Davies logo Real Institute logo Axis logo

Arts Council of Wales logo

 


Axis logo
Copyright Axis 1999-2013 unless stated otherwise. No reproduction of text or media without written permission. For terms and conditions visit www.axisweb.org/copyright.